Location in The Sacred Harp | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|
Stanza | Denson | Cooper | ||||
1 |
O Iachawdwr pechaduriaid; Sydd a'r gallu yn dy law; Rho oleuni hwylia'm henaid, Tros y ce'nfôr garw draw: Gad y wawr fod o fy wyneb, Rho fy enaid llesg yn rhydd, Ne' i'r haul-wen ddisglair godi, Tywys fi wrth y feren ddydd. |
|||||
2 |
A oes neb o'm holl gyfeillion, A ddaw'n ddi-ddig gyd â mi, Ac a orwedd wrth fy ochor Obry yn y ddear ddu? A ydyw cyfailll ddim ond hynny? Taflu dagrau, newid gwedd, Pan b'o'r pridd a'r clai a'r cerrig Arnai'n cwympo yn y bedd. |
|||||
3 |
O ynfydrwydd! O ffolineb! I mi erioed i roddi myrd Ar un Tegan ar un pleser Welais etto yn y byd; Y mae'r byd yn myned heibio A'i deganau o bob rhyw, Tan y nef ni thal ei garu Wrthddrych arall ond fy Nuw. |
|||||
4 |
Bellach minau'n ëon deuaf, Mi ymgrymaf wrth dy draed, Ac mi blediaf am drysorau, Wedi eu haddo oll yn rhad; Ni does neb o dan yr wybr, Mewn myw diffyg, mewn mwy trai, Tlawd o'r cyfan, ond yn benaf, Tlawd wyf Arglwydd o'th fwynhau. |
|||||
5 |
O foreu-ddydd y briodas, Gwyn fyd welai'r ddedwydd awr; Gwel'd wyneb-pryd y priod-fab, Clywed llais y Delyn fawr: Awn t'n ganu tros y moroedd, Meithion tua'r hyfryd wlad, Ac anghofiwn hen gariadau, Gwag bleserau tŷ fy nhad. |
|||||
6 |
Blinais ar afonydd Babel, Ni does yno ond wylo I gyd, Llais telynau hyfryd S'on, Sydd yn gyson dynu 'mryd: Tyr'd a ni yn dorf gariadus, O gaethiwed Babel fawr, Ac nes bo'm ar fynydd Sd'on, Na'd ni osod clun I lawr. |